Rhestr o Awduron

GRIFFITHS, GWYN

Tynbwlch, Llandraw, Maesycoed, Pontypridd, CF37 1EX
(01443) 406203; 0771 5554440
gwyn.tynbwlch@talktalk.net

Gwyn GriffithsAwdur, cyfieithydd, newyddiadurwr.  Ganed yn Swyddffynnon, ger Tregaron.  Addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Tregaron; Coleg Hyfforddi Dinas Caerdydd; Prifysgol Caerdydd.  Gradd M.Sc. (Econ).  Trefnydd Sir yr Urdd yn Sir Benfro a dechrau sgrifennu i bapurau wythnosol – Western Telegraph yn Hwlffordd a’r County Echo yn Abergwaun.  Wedyn, golygydd newyddiadur yr Urdd, Yr Aelwyd, yn Aberystwyth.  Ymuno â staff Y Cymro yng Ngroesoswallt fel newyddiadurwr / is–olygydd (1966 – 69).  Cyfrannu erthyglau cyson i’r Daily Post a chyflwyno ambell raglen radio.  Adolygu llyfrau i Lleufer (cylchgrawn Cymdeithas Addysg y Gweithwyr).  Ymuno â BBC Cymru yng Nghaerdydd fel Swyddog Hysbysrwydd Cynorthwyol, Pennaeth Adran y Wasg yn ddiweddarach.  Yn 1976 ymddangosodd Wês Wês, cyfrol a farddoniaeth a rhyddiaith yn nhafodiaith Dyfed a gyd–olygodd.  Yn 1977 ymddangosodd ei gyfrol gyntaf Crwydro Llydaw.  Yn 1979 cafodd ysgoloriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru i sgrifennu hanes y gwerthwyr winwns o Lydaw.  Cyhoeddwyd Y Shonis Olaf ym 1981.  Cyhoeddwyd fersiwn Saesneg ohoni ym 1987.  Ym 1982, cyd-gyfieithodd a golygodd Dramâu o’r Llydaweg – cyfrol o dair drama hir ac un drama fer o waith y dramodydd Llydaweg Tangi Malmanche.  Ymddangosodd cyfrolau eraill yn nhafodiaith Dyfed wedi hynny.  Cyfrannodd i amryw gylchgronau Ffrengig a Llydewig yn y cyfnod hwn (ran amlaf dan y ffugenw Harri Roberts!) – Dalc’homp Soñj, Breizh, Bretagne à Paris (yn Ffrangeg), Al Liamm (yn Llydaweg), ac ambell erthygl i Le Monde a Le Monde Dimanche.(yn Ffrangeg).  Ym 1988 cynhyrchodd raglenni radio (Radio Cymru, Radio Wales a Radio Scotland) ar Sioni Winwns. 

Gadael y BBC ym 1991.  Cyfnodau o sgrifennu’n gyson i Y Cymro a gweithio’n llawn-amser ar BBC Cymru’r Byd am ddwy flynedd gyntaf y wefan (2000 – 2003).  Beirniad rhaglenni radio (yn Saesneg) i’r Western Mail o 1992 tan tua 1995.  O (tua) 1995 hyd 2006 colofnydd radio dyddiol y Morning Star.  Mae’n parhau i adolygu llyfrau i Cymru’r Byd a’r Morning Star a wedi cyfrannu ambell erthygl i Barn yn y blynyddoedd diweddar.  Cylchgronau eraill y bu iddo gyfrannu iddynt yn y cyfnod hwn yw Revue Français de civilisation britannique a EMI (Educational Media International).  Annerch cynhadledd o’r International Council for Educational Media yn Reykjavik, Ynys yr Iâ ym 1991.  Bu’n cyfieithu llyfrau ar gyfer plant ysgol gynradd yn yr un cyfnod, yna ym 1996 cafodd ysgoloriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru i sgrifennu cyfrol daith arall ar Lydaw.  Cyhoeddwyd Llydaw – ei llên a’i llwybrau yn y flwyddyn 2000. 

Yn 1992 gweithiodd ar raglen deledu Sioni Winwns i S4C.  Ym 1993 cafodd gomisiwn gan y Cyngor Amgueddfeydd yng Nghymru i greu arddangosfa deithiol am hanes a bywyd y Sionis ac oddi wrth Gyngor Rosko yn Llydaw i sefydlu amgueddfa barhaol i’r Sionis yn y dref.  Lawnsiwyd yr arddangosfa ym Mhontypridd yn hydref 1994 ac fe’i gwelwyd mewn nifer fawr o amgueddfeydd yn y de gan gynnwys Amgueddfa Werin Sain Ffagan.  Agorwyd La Maison des Johnnies yng ngwanwyn 1995.

Cyhoeddwyd cyfrolau newydd ganddo am y Sionis ym 2002, yn Gymraeg, Saesneg a Ffrangeg.  Yn yr un flwyddyn derbyniodd gomisiwn i olygu a chyfieithu blodeugerdd o lenyddiaeth a barddoniaeth yn ymwneud â Llydaw gan gwmni Francis Boutle, cyfrol a baratowyd ar y cyd gyda Jacqueline Gibson o Goleg y Brifysgol, Aberystwyth.  Cyhoeddwyd The Turn of the Ermine yn 2006.  Yn 2005 fe’i comisiynwyd i sgrifennu dwy gyfrol, y naill yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg, am hanes cyfansoddi Hen Wlad Fy Nhadau.  Cyhoeddwyd Gwlad Fy Nhadau a Land of my Fathers fel rhan o ddathliadau 150 mlwyddiant cyfansoddi’r anthem ym Mai 2006.

Ym 1997 lluniodd arddangosfa deithiol am Lydaw a chysylltiadau Llydaw â Chymru i ddathlu dau-canmlwyddiant geni François-Alexis Rio a anwyd yn Llydaw, a briododd ferch o ardal Y Fenni ac a fu byw am gyfnod hir yng Nghymru.  Yn 1999 ysgogodd arddangosfa o waith Sydney Curnow Vosper (arlunydd Salem) ar gyfer Amgueddfa Gelf Le Faouet, yn y Morbihan, Llydaw.  Bu’n chwilota am weithiau Vosper yn 2000 ac agorwyd yr Arddangosfa yng ngwanwyn 2001 lle y bu am y chwe mis dilynol.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Wês Wês (cyd-olygydd)  (Gwasg Gomer, 1976)
Crwydro Llydaw (Christopher Davies, 1977)
Wês Wês – Wêth (cyd-olygydd) (Cyhoeddiadau’r Frenni, 1978)
Y Shonis Olaf (Gwasg Gomer, 1981)
Dramâu o’r Llydaweg (cyd-gyfieithydd) (Christopher Davies, 1982)
Wês Wês - Shwrne ’to (golygydd) (Cyhoeddiadau’r Frenni, 1982)
Goodbye Johnny Onions (Dyllansow Truran, 1987)
Llew a’r Llygod Llydewig (cyfieithydd) (Gwasg Gomer, 1993)
Leisa a Morris o’r Môr (cyfieithydd) (Gwasg Gomer, 1993)
Ewythr Barti y Môr-leidr (cyfieithydd) (Gwasg Gomer, 1994)
Draig yn y Cwpwrdd (cyfieithydd) (Gwasg Gomer, 1995)
Wês Wês Pentigily (golygydd) (Gwasg Gomer, 1994)
Llydaw – ei Llên a’i llwybrau (Gwasg Gomer, 2000)
Sioni Winwns (Carreg Gwalch, 2002)
The Last of the Onion Men (Carreg Gwalch, 2002)
Le Monde des Johnnies (Le Telegramme, 2002)
The Turn of the Ermine (cyd-olygydd a chyd-gyfieithydd) (Francis Boutle Publishers, 2006)
Gwlad Fy Nhadau (Carreg Gwalch, 2006)
Land of my Fathers (Carreg Gwalch, 2006)

Adolygiadau:

Crwydro Llydaw

“… Saif yn olyniaeth urddasol cyfres Crwydro Cymru ac y mae’n deilwng o’i dras.”  Rhidian Griffiths yn y South Wales Evening Post (Gorffennaf 29, 1978)

“… llyfr sy’n rhoi i’r Cymry yr hyn nas ceir mewn llyfrau Ffrangeg a Saesneg … patrwm o lyfr taith …”  Al Liamm, (Medi, 1978)

Llydaw – ei llên a’i llwybrau

“Bydd Llydawgarwyr Cymru yn ymfalchïo gyda chyhoeddi y llyfr hwn … mae’n dal i’w gweld (Llydaw) gyda llygaid ffres …”  Helen Price ar BBC Cymru’r Byd (Hydref 19, 2000)

Gwlad Fy Nhadau

Gwlad Fy Nhadau 
(Cliciwch ar y clawr i brynu copi)

“… cyfrol wirioneddol ddifyr yn goleuo hanes a fu’n dywyll …”  Cyril Jones ar BBC Cymru’r Byd (Medi 2006)

“… cyfrol sy’n llawn i’r ymylon … difyr a darllenadwy…”   Cathryn A. Charnell-White yn Taliesin (Gaeaf 2006) 

Pynciau sy’n gymwys dan gynllun Awduron ar Daith:
1. Hen Wlad Fy Nhadau – yr anthem a’i chyfansoddwyr
2. Llenyddiaeth Llydaw
3. Sioni Winwns
4. Sydney Curnow Vosper yng Nghymru ac yn Llydaw

Oedran y Gynulledfa: oedolion, ag eithrio Hen Wlad Fy Nhadau, sy’n addas ar gyfer pob oed o oed cynradd i fyny