Rhestr o Awduron
ETHALL, HUW
53, Porthamal Road, Rhiwbeina, Caerdydd CF14 6AQ
Ffôn: 02920614410
Ganed yng Nghaernarfon. Adeg y Rhyfel, cofrestru fel gwrthwynebydd cydwybodol. Gweithio gyda Chomisiwn Coedwigoedd yng Nghaio, Sir Gaerfyrddin, ar y tir yn Llanisien a gwaith cymdeithasol yn ardal Stryd Bute, Caerdydd. Mynd i Goleg y Brifysgol Caerdydd a Choleg y Presbyteriaid, Caerfyrddin ac i’r Weinidogaeth ym Mrynaman, Porthmadog, Garnant, Caerfyrddin, Sgeti, Abertawe. Ymddeol i Gaerdydd. Enillydd cystadleuaeth yr Ysgrif yn Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith, a’r ysgrif bortread (o Ryan Davies) yn Eisteddfod Caerdydd 1986. Beirniad cystadleuaeth yr Ysgrif yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyfrannu’n gyson i’r Genhinen, Y Faner, Taliesin. Ar banel golygyddion Y Tyst, cylchgrawn yr Annibynwyr. Aelod o’r Orsedd.
Cyhoeddiadau:
Dyddiadur John Penry (Gwasg John Penry, 1970)
Llythyrau Efangeliws (Gwasg John Penry, 1974)
Tegla (Gwasg John Penry, 1980)
R.G. Berry (Gwasg John Penry, 1985)
Cofio Dewi Eirug (Gwasg Morgannwg, Mynachlog Nedd 2000)
Curig (gol. Gwasg John Penry, 1992)
Y Ddarlith Lenyddol Flynyddol, Eisteddfod Bro Ogwr 1998: Pennar, Y Dyn a’i waith
Oriel a Heddychwyr Mawr y Byd (gol. D. Ben Rees, 1980)
Cyfrannwr ar Tolstoi
Dal i Herio’r Byd (gol. D. Ben Rees, 1988)
Cyfrannwr ar J.R. Jones
Yr Un Mor Wen (gol. William Owen, Gwasg Pantycelyn, 1992)
Cyfrannwr: Ann Griffiths a Llên–ladrad
Sôn Dynion Amdanynt (gol. Harri Parri a William Owen, Gwasg Tw ar y Graig, 1975)
Cyfrannwr ar John O. John
Rhwng Guyl a Gwaith Cyfrol 7 (gol. R. Alun Evans)~
Cyfrannwr Sgwrs Radio: Y Diafol
Sylwadau Beirniadol:
Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, Bro Myrddin 1974: Y Fedal Ryddiaith: Pennar Davies:
“Dylid ar bob cyfrif gyhoeddi’r gwaith anghyffredin hwn… Petasai mwy nag un fedal…”
Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, Y Fflint 1969: Y Fedal Ryddiaith: J. Gwilym Jones:
“... mae hwn yn waith gafaelgar a deallus ... yn waith o safon medal ryddiaith.”
Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Wrecsam a’r Cylch, 1977: D. Tecwyn Lloyd:
“Mae Alget yn sgrifennwr darllenadwy, disgybledig a phleser oedd darllen ei waith a theimlo fod Tegla ei hun, ar brydiau, yn dod yn fyw iawn ar ei ddalennau.”
1.jpg)
1.jpg)
1.jpg)


