Rhestr o Awduron

GRUFFYDD, KEN LLOYD

Awdur a hanesydd.  Ganed ym Mhorthmadog yn 1939 a derbyniodd ei addysg yn yr ysgolion lleol cyn mynd ymlaen i’r Coleg Normal, Bangor; Coleg Cartrefle, Wrecsam a Phifysgol Bangor.  Bu’n bensaer ac yn ysgolfeistr, a threuliodd gyfnod yn y Fyddin.

Cyhoeddwyd ei waith cyntaf ym 1963 a bu’n gyd–awdur y llyfr i fechgyn, Yr Hebog (Cyhoeddiadau Modern, 1969) ynghyd a^ Gerallt Lloyd Owen a Wil Lloyd Davies.  Golygodd cyfrol o farddoniaeth plant Rides with the Winds (Mold, 1973) ac ysgrifennodd law–lyfr i blant, Eglwys y Plwyf (Gwasg Gwynedd, 1976).  Bu’n aelod o di^m - dan oruchwyliaeth Dafydd Orwig - a fu’n gyfrifol am addasu a chyfieithu i’r Gymraeg Atlas Medrau Map, Rhifau 1-3 (Collins Longman 1990).  Ynghyd a^’i wraig (y Parchedig Eirlys Gruffydd) cyhoeddodd Ffynhonnau Cymru 2: Y Gogledd (Gwasg Carreg Gwalch, 1999).  Disgwylier cyhoeddi Ffynhonnau Cymru 3: Y De yn 2009.

Mae rhai ysgrifau a darnau o’i farddoniaeth (Cymraeg a Saesneg) i’w gweld yma ac acw mewn cylchgronau, ynghyd a^ sylwadaeth golygyddol, coffhad, adolygiadau o lyfrau ayyb.  Erthyglau yn seiliedig ar agweddau o hanes Cymru yw’r rhan fwyaf o’i gynyrch, oddeutu nawdeg o bapurau hyd yn hyn.  Ceir hwy mewn cylchgronau megis Archaelogia Cambrensis, Cylchgrawn Hanes Sir y Fflint, Cymru a’r Mo^r, Hanesydd Cymru, Llafar Gwlad ayyb.

Yn ychwanegol i’w waith ysgrifenedig mae ei waith arlunio i’w gweld yng nghyfrolau ei hun ag awduron eraill.  Mae wedi cael oddeutu cant o fapiau wedi eu cyhoeddi yn y dull yma hefyd.