Rhestr o Awduron
THOMAS, M WYNN
Arbenigwr ar farddoniaeth Americanaidd ac ar ddwy lenyddiaeth Cymru. Bu’n Athro ar Ymweliad ym Mhrifysgolion Havard a Tübingen. Ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Llên Cyngor Celfyddydau Cymru am bum mlynedd. Bu’n Gadeirydd yr Academi Gymreig ac fe’i gwnaed yn Gymrawd yr Academi yn 2000. Fe’i etholwyd yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 1996. Cafodd ei urddo â gwisg wen yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2000. Ef yw Cadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru. Derbyniodd yr OBE am wasanaeth i lenyddiaeth Cymru yn 2007.
Detholiad o Gyhoeddiadau
Morgan Llwyd: ei gyfeillion a’i gyfnod (1991)
The Lunar Light of Whitman’s Poetry (1987)
Internal Difference: Writing in Twentieth Century Wales (1992) Corresponding Cultures: the two literatures of modern Wales (1999)
DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru (1995)
Residues (cyfrol o gerddi diweddar anghyhoeddedig R.S. Thomas, 2002).


