Rhestr o Awduron

JENKINS, GWYN

Brodor o bentref Penparcau ger Aberystwyth, ond yn Nhal-y-bont y mae ei gartref ers dros chwarter canrif bellach.  Mae’n aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru er 1974, bu’n Geidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau am ddeng mlynedd; bellach mae’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Casgliadau.  Ef oedd golygydd cyffredinol y gyfrol Llyfr y Ganrif a gyhoeddwyd yn 1999.

Mae ei gyfrol, Prif Weinidog Answyddogol Cymru: Cofiant Huw T. Edwards (Y Lolfa, 2007), ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008.  Ewch yma i ddarllen mwy. 

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Prif Weinidog Answyddogol Cymru: Cofiant Huw T. Edwards (Y Lolfa, 2007)

Prif Weinidog Answyddogol CymruDyma’r cofiant cyntaf i un o gymeriadau mwyaf deniadol Cymru yn yr ugeinfed ganrif.  Ag yntau yn sosialydd cenedlaetholgar, yn undebwr llafur ac yn gadeirydd cyntaf Cyngor Cymru, cyfeiriwyd at Huw T. Edwards yn anterth ei yrfa fel ‘Prif Weinidog Answyddogol Cymru’. 

Cliciwch ar y clawr i brynu copi