Rhestr o Awduron
KARADOG, ANEIRIN
Brodor o Bontypridd a enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd Caerdydd yn 2005. Mae Aneirin hefyd yn adnabyddus fel un o aelodau’r grwpiau hip hop Y Diwygiad a’r Genod Droog. Gall Aneirin rapio mewn pum iaith gan gynnwys Llydaweg a Sbaeneg. Bu hefyd yn rhan o’r daith Crap ar Farddoni gyda rhai o feirdd ifanc Cymru, Catrin Dafydd, Hywel Griffiths, Eurig Salisbury a Iwan Rhys.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Crap ar Farddoni (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)



