Rhestr o Awduron
OWEN, ANN PARRY
Mae’r Athro Ann Parry Owen yn Gymrawd Ymchwil ac Arweinydd Prosiect Beirdd yr Uchelwyr yn Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Ei phrif faes ymchwil yw barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Y mae’n ymddiddori’n arbennig ym marddoniaeth, mydryddiaeth a ieithwedd Beirdd y Tywysogion a’r Gogynfeirdd Diweddar a ganai yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Hi yw un o gyd-olygyddion Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr i, ii yng Nghyfres Beirdd y Tywysogion, a cheir golygiadau o destunau diweddarach ganddi yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr, cyfres y mae hi’n olygydd cyffredinol arni. Yn ddiweddar dyfarnwyd grant ymchwil i Dr Parry Owen gan yr AHRC a fydd yn caniatáu iddi sefydlu prosiect pum mlynedd newydd ar gyfer tîm yn y Ganolfan. Guto’r Glyn fydd yn dod o dan y chwyddwydr y tro hwn, a bydd golygiad electronig newydd o’i waith yn cael ei baratoi yn ogystal ag astudiaeth
drylwyr o fywyd yng Nghymru’r bymthegfed ganrif – e.e. ei diwylliant materol, hanes, gwleidyddiaeth, &c. – drwy gyfrwng gwefan yn ogystal â chyfrol o erthyglau. Yn 2007 dyrchafwyd Dr Parry Owen yn Ddarllenydd gan Brifysgol Cymru.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Englynion Dafydd ap Gwilym i’r Drych (Dwned, xiii (2007), 47-76).
Mynegai i enwau priod ym marddoniaeth y bedwaredd ganrif ar ddeg (i ymddangos 2008 yn Llên Cymru).
Gwaith Gruffudd ap Maredudd iii (Aberystwyth, 2007).
Canu Serch Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd o Fôn (Dwned, x (2004), 57–78).
Cyfuniadau hydref ddail ym Marddoniaeth Beirdd y Tywysogion (yn Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, gol. Iestyn Daniel, Marged Haycock, Dafydd Johnston, Jenny Rowland). (Caerdydd, 2003, 237–51).
Tri darn o farddoniaeth yn Llawysgrif Peniarth 10 (gyda Dafydd Johnston) (Dwned, 5 (1999), 35–45).
Cymeriad yn awdlau Beirdd y Tywysogion (Dwned, iv (1998), 33–58).
Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac Eraill (gol. Rhiannon Ifans, Ann Parry Owen (tt. 1–112), W. Dyfed Rowlands ac Erwain Haf Rheinallt (Aberystwyth, 1997).
Nifer o erthyglau ar gyfer Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (gol. Meic Stephens (arg. newydd, Caerdydd, 1997).
Mynegai i Enwau priod ym marddoniaeth Beirdd y Tywysogion (Llên Cymru, xx (1997), 25–45).
‘“A mi, feirdd, i mewn a chwi allan”: Cynddelw Brydydd Mawr a’i grefft yn Beirdd a Thywysogion: Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a’r Alban, gol. Morfydd E. Owen a Brynley F. Roberts (Aberystwyth a Chaerdydd, 1996), 143–65.
Golwg byr ar fydryddiaeth englynion Dafydd ap Gwilym i’r Grog o Gaer (Dwned, i (1995), 41–53).
Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym ac eraill (gol. Ann Parry Owen (tt. 1–168) a Dylan Foster Evans (Aberystwyth, 1995).
Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr II, gol. Ann Parry Owen a N.A. Jones (Cardiff, 1995) (tt. xxii + 449).
Canu Cynddelw Brydydd Mawr i Dysilio Sant (Ysgrifau Beirniadol, xviii (Dinbych, 1992), tt. 73–99).
Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr I, gol. Ann Parry Owen a N.A. Jones (Cardiff, 1991) (tt. l + 374).


