Rhestr o Awduron

JONES, CARYL PARRY

Caryl Parry JonesCaryl yw Bardd Plant Cymru 2007-2008.  Magwyd Caryl yn Ffynnongroyw rhwng Treffynnon a’r Rhyl, ac mae hi bellach wedi ymgartrefu yn Y Fro gyda’i g?r a’u pedwar plentyn.  Mynychodd Caryl Ysgol Mornant, Ffynnongroyw ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy a Phrifysgol Cymru, Bangor, lle y graddiodd yn y Gymraeg.

Mae hi wedi canu a pherfformio gyda sawl band dros y blynyddoedd, gan gychwyn yn yr ysgol gyda Sidan, yna Injaroc, Bando, a Caryl a’r Band.  Mae hi bellach yn canu gyda’i band a chyda’r gr?p harmoni clos, Harmony Central. Yn ogystal â sgwennu caneuon, mae Caryl wedi ysgrifennu sawl ffilm i blant gan gynnwys ysgrifennu sgript a chaneuon Y Dyn Nath Ddwyn y Nadolig (1985) ar y cyd â Hywel Gwynfryn ac Anrheg Elin (2000).  Mae wedi serennu yn ei chyfres ddynwared ei hun ar S4C yn yr 80au, a hyd heddiw dyw hi byth yn bell o’r sgrîn deledu. Yn ddiweddar bu’n hyfforddi tu ôl i’r llwyfan ar y gyfres Wawffactor ar S4C.

Mae Caryl wedi cyfrannu at gyfrol o farddoniaeth wedi’i ysbrydoli gan fywyd ar goridorau ysgol, Caneuon y Coridorau (Gwasg Carreg Gwalch, 2005) a chasgliad o garolau, Carolau Caryl (Gwasg Carreg Gwalch, 2000).

Mae hi hefyd yn aelod o dîm Talwrn Y Taeogion.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Carolau Caryl (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
Cyfres Dwy Genhedlaeth: Rhys Jones a Caryl Parry Jones (Gomer, 2004)
Caneuon y Coridorau (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Goreuon Caryl (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)