Rhestr o Awduron
TRIMBLE, RHYS
Waen y Graig, Llanerchymedd, Ynys Môn, LL71 7AN.
Email: rhys.trimble@gmail.com
Website: profile.to/rhystrimble (facebook) a www.myspace/rhystrimble
Mae Rhys Trimble yn fardd dwyieithog, tiwtor preifat a pherfformiwr yn gweithio yng ngogledd Cymru. Cafodd ei eni ym 1977 yn Livingstone, Zambia a’i godi yng Ngwent a Phontneddfechan, de Cymru. Wedi cyhoeddi’i farddoniaeth yn Poetry Wales, Tears in the Fence, Seventh Quarry, Coffee House Poetry, Aesthetica, Skald a chyhoeddiadau eraill. Mae wedi ennill gwobr farddoni gan Cinnamon Press ac wedi gweithio yn y gorffennol gyda Prosiect celfyddydol cymunedol ‘Voices in the Vale’ ym mro Nedd. Mae ei waith diweddar yn cynnwys seilio nosweithiau gair-ar-lafar POETica ym Mangor, cydweithio efo Parking Non-stop ar drac barddonol/cerddorol a cyhoeddi pamffled: afanc e.p. Mae’n astudio am radd mewn ysgrifenni creadigol ym Mangor ac yn gweithio ar gasgliad hyd-llawn o gerddi.


