Rhestr o Awduron
LITTLE, AWEN
Ebost: awen.little@btinternet.com
Ganwyd Awen yng Nghaerfyrddin lle fuodd yn ddisgybl yn Ysgol y Dderwen a Ysgol Ramadeg y Merched. Graddiodd yn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Sid the Sock Eating Monster yw ei llyfr cyntaf. Mae’r llyfr yn cael ei ddefnydddio yn barod gan Goleg y Drindod gan y myfyrwyr ar ymarfer dysgu. Mae fersiwn Gymraeg o’r llyfr yn cael ei baratoi, Sid y bwystfil bwyta sanau.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Sid the Sock Eating Monster (Author House, 2007)
Dywed Carys Richards, Darlithydd Hyfforddiant Addysg Gychwynnol Athrawon am Sid the Sock Eating Monster:
Rydym wedi cyflwyno’r llyfr fel rhan o’n modylau "Cyfnod Sylfaen" yn y Coleg. Gwnaethom ei ddefnyddio fel man cychwyn i thema. Mae ei ddefnyddioldeb yn ddi – ddiwedd ar gyfer gweithgareddau plant ifanc gan ei fod yn cynnig cynifer o wahanol is – themau megis : amser, lliwiau, teimladau, anifeiliaid anwes, patrymau a diogelwch. Darluniwyd y llyfr gan Therese James o Lanelli.


