Rhestr o Awduron
EDWARDS, DYFED
Ebost: dyfededwards@yahoo.co.uk
Magwyd Dyfed Edwards ym mhentre Rhosmeirch, ger Llangefni, ac erbyn hyn mae’n byw yn Whitstable, Swydd Caint. Dechreuodd ei yrfa newyddiadurol gyda Phapurau’r Herald yng Nghaernarfon, ac mae wedi gweithio i’r Daily Post (yn Lerpwl ac yng Ngogledd Cymru), i’r Journal yn Newcastle, ac i’r Daily Mail. Ar hyn o bryd mae’n gwneud ei fywoliaeth fel awdur a newyddiadurwr ar ei liwt ei hun. Bu hefyd yn ganwr gyfansoddwr, a rhyddhaodd dri chasét/LP yn yr 80au a’r 90au, gan gynnwys Gwlad Yr Addewid, gynhyrchwyd gan Elwyn Williams o Fand Steve Eaves ac Enw Da Geraint Lovgreen. Teilyngwyd iddo’r ail wobr am ei ddrama Anfonwch Fil yng nghystadleuaeth Drama Fer Agored Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2003. Dyfarnwyd ei fonolog Noeth yn ail yn y gystadleuaeth llunio sgript ar gyfer un actor/actores yn yr un Brifwyl. Mae pedair o’i nofelau a dwy gyfrol o’i straeon wedi eu cyhoeddi. Fis Hydref eleni bydd Y Lolfa’n cyhoeddi ei gyfrol ffeithiol gyntaf.
Cyhoeddiadau:
Dant At Waed (Y Lolfa, 1996)
Cnawd A Storïau Eraill (Y Lolfa, 1997)
Y Syrcas (Y Lolfa, 1998)
Llwybrau Tywyll (Y Lolfa, 1999)
Hen Friwiau (Carreg Gwalch, 2002)
Y Moch A Straeon Eraill (Carreg Gwalch, 2007)
Adolygiadau:
Y MOCH A STRAEON ERAILL
“Dychryn a gwae – bendigedig … Byddwn yn annog pawb i ddarllen y gyfrol hon … ”
Llinos Dafydd
(Llais Llên ar bbc.co.uk)
HEN FRIWIAU
“Wedi darllen Hen Friwiau gan Dyfed Edwards byddaf yn gwneud yn si?r fy mod yn cadw’r berl hon … Mae gan yr awdur dalent werthfawr, dychymyg hudolus a sbarc yn ei ysgrifennu ... ”
Carys Mair Davies
(Llais Llên ar bbc.co.uk)
“Ei gryfder yw ei feistrolaeth ar y digwyddiadau a’r ffeithiau. Mae’n datgelu manylion yn grefftus – darn o’r jig-so yn fan hyn, y darlun yn ehangu wedyn i’r cyfeiriad arall – yn raddol, yn gynnil, yn gyffrous ... ”
Dafydd Andrews
(Adolygiad oddi ar www.gwales.com,
trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru)
Y SYRCAS
“Nofel gwerth ei darllen ... Prynwch hi. Darllenwch hi. Ond ddim gyda’r nos ...”
Lyn Ebenezer
(Adolygiad oddi ar www.gwales.com,
trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru)
ANFONWCH FIL
“Mae’n ddrama rymus ... Mae’r ddeialog wedi ei saernïo’n dda ac wedi ei strwythuro’n gelfydd ... Mae’r dramodydd yn gafael ynom o’r dechrau trwy gyfrwng sgwrsio hollol gredadwy rhwng dau gymeriad cofiadwy iawn ... ”
Beirniadaeth cystadleuaeth Drama Fer Agored,
Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2003
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Ei waith ei hun.
2. Ysgrifennu nofelau.
3. Nofelau "genre", e.e. arswyd, ditectif, antur.
4. Addasiadau ffilm o nofelau.
Oedran y Gynulleidfa:
Myfyrwyr/Oedolion dros 18 oed.


