Rhestr o Awduron
JONES, RICHARD WYN
Darlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle mae’n Gyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’n awdur dwy gyfrol ar wleidyddiaeth ryngwladol yn ogystal â nifer fawr o ysgrifau sy’n trafod agweddau amrywiol ar wleidyddiaeth Cymru.
Mae ei gyfrol, Rhoi Cymru’n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007) ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008. Cliciwch yma i ddarllen mwy.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Rhoi Cymru’n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007)
Tywysogion (gyda Huw Pryce a Spencer Smith) (Hughes, Caerdydd, 2007)
Yn y gyfrol arloesol hon mae Richard Wyn Jones yn olrhain datblygiad syniadaeth Plaid Cymru o’i geni yn 1924-5 hyd at sefydlu Cynulliad Genedlaethol Cymru yn 1999. Dyma lyfr sy’n bwrw goleuni newydd, dadlennol a dadleuol ar y Blaid.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi


