Rhestr o Awduron
ROS, MANON STEFFAN
Dramodydd ac awdur. Yn wreiddiol o Rhiwlas mae Manon bellach yn byw yn ardal Machynlleth. Mae hi’n awdures ac yn fam llawn amser i Efan Dafydd. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfodau Cenedlaethol Eryri ac Abertawe. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf eleni, Trwy’r Darlun (Y Lolfa, 2008), sef nofel i blant, ac mae hi’n gobeithio ysgrifennu nofel i oedolion cyn bo hir.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Trwy’r Darlun (Y Lolfa, 2008)


