Rhestr o Awduron

ROBERTS, GRACE

Grace RobertsGerallt, 16 Brynffynnon, Y Felinheli, Gwynedd. LL56 4SX
Ffôn:  01248 670858

Awdur ac ymchwilydd.  Ganed ym Mhenysarn, Môn, ac addysgwyd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, a Choleg y Brifysgol, Bangor.  Bu’n llyfrgellydd am ddeng mlynedd mewn llyfrgelloedd prifysgol a llyfrgelloedd sir.  Enillodd nifer o wobrau eisteddfodol yn cynnwys Medal Ryddiaith Eisteddfod Môn Bro’r Frogwy 1988, a chystadleuaeth y stori fer yn yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith.  Bu’n sgriptio i Pobol y Cwm am ddeng mlynedd, a chyfrannodd gwpwl o sgriptiau i Pengelli.  Hefyd darlledodd nifer helaeth o sgyrsiau radio.  Cyhoeddodd gyfrol o’i sgyrsiau radio, cyfrol o’i storiau byrion, a dwy nofel.  Ymddangosodd nifer o erthyglau a storiau byrion eraill o’i heiddo mewn cylchgronau, papurau newydd a detholiadau, a charai gasglu rhai o’r rhain yn gyfrol.  Mae’n ymchwilio hanes a gwaith yr awdures Eingl-Gymreig Megan Glyn, ac yn gobeithio ail-afael mewn ysgrifennu nofelau ar ôl cyfnod o afiechyd.

Cyhoeddiadau:
Sgyrsiau Hogiau yn Bennaf (Carreg Gwalch, 1985)
Rhodd o Ferch (Mei, 1988)
Dyddiau Teisen Bwdin (Mei, 1989)
Drysfa (Gwasg Gwynedd, 1991)

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Plwc a Chadair Olwyn: Megan Glyn a’i nofelau (oedolion)
2. Darlleniadau o sgyrsiau radio (cymdeithasau megis Merched y Wawr)