Rhestr o Awduron

FRANCIS, ANWEN

Cwrthen Bach, Beulah, Castellnewydd Emlyn, Ceredigion
Ebost: anwen.francis@btinternet.com

Anwen FrancisMerch ifanc o Aberteifi yn wreiddiol yw Anwen Francis.  Mae bellach yn byw ar fferm ar gyrion pentref Beulah ger Castellnewydd Emlyn gyda’i gwr, Rhys a’i merch, Soffia.  Mae bywyd Anwen, ers iddi adael coleg, wedi bod yn ymwneud â’r cyfryngau.  Dechreuodd ei gyrfa yn gweithio i bapur lleol y Teifiseid, yna fel gohebydd newyddion am saith mlynedd i BBC Cymru ar radio a theledu.  Mae hefyd wedi bod yn cyflwyno cyfres o raglenni ‘Byd Natur’ ar ddigidol i deledu Telesgop ac wedi bod yn ymchwilydd ac yn gynhyrchydd i Boomerang adeg y Sioe Frenhinol.  Ar hyn o bryd, mae’n Rheolwr Cyfathrebu Corfforaethol gyda Chyngor Sir Ceredigion, yn golofnydd ceffylau i’r Western Mail, yn golofnydd amaeth i’r NFU ac yn gyfrifol am y dudalen Gymraeg yn y Teifiseid – yn wir, mae bywyd yn brysur.  Cafodd radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Goleg y Drindod a chyhoeddodd CD Siani’r Shetland ynghyd a nifer o dapiau eraill i Gwmni Fflach.  A hithau yn disgwyl ei hail blentyn mis Mehefin, mae’n edrych ymlaen at lansio ei nofel gyntaf drwy gyfrwng y Saesneg gyda chwmni Parthian a’i chweched nofel drwy gyfrwng y Gymraeg gyda Gwasg Gomer.  Dangos a bridio ceffylau yw diddordeb Anwen a’i theulu.  Ar hyd y flwyddyn, mae’r teulu dros Brydain yn cystadlu gyda’u ceffylau - o bonis Shetland i geffylau hela, mae’r teulu wrth eu bodd yn cystadlu ac yn cymdeithasu.  Mae Anwen hefyd yn ymddiddori ym myd gwrachod, straeon difyr ac ysbrydion.

Siani ar Garlam

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Siani’r Shetland (Gomer, 2003)
Campau Siani’r Shetland (Gomer, 2004)
Nadolig Llawen Siani (Gomer, 2005)
Siani’n Achub y Dydd (Gomer, 2006)
Siani ar Garlam (Gomer, 2007)
Siani Shetland (Parthian, 2008)