Rhestr o Awduron
NORTHEY, SIAN
Pant Lôn, Pentrefelin, Cricieth, Gwynedd, LL52 0PU
Ffôn: 01766 522765 / 07748484718
Ebost: sian_northey@yahoo.com
Er mai astudio gwyddoniaeth y bu Sian yn y brifysgol bu’n gweithio yn hyrwyddo llenyddiaeth yn y gymuned am flynyddoedd ac yna yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Tŷ Newydd, y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol, cyn rhoi gorau i hynny i fynd i weithio ar ei liwt ei hun. Mae’n ysgrifennu ffuglen ar gyfer oedolion a phlant, llên meicro ac hefyd yn barddoni (mae’n aelod o dim Talwrn y Tywysogion).
Cyhoeddiadau:
Ar y Daith (Gwasg Gwynedd, 1998)
Corachod Digartref (gol)(Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
Pwysig! (Gwasg Gwynedd, 2005)
Cerddi Meirionnydd (gol)(Gwasg Gomer, 2006)
Chwaer Fawr Blodeuwedd (Gwasg Gwynedd, 2008)
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen a thrafod ei gwaith ei hun
2. Gweithdai ysgrifennu creadigol i oedolion a phlant



