Rhestr o Awduron
ARAN, CATHERINE
12, Caerberllan, Braichmelyn, Bethesda, Gwynedd LL57 3PS
Ffon: (01248) 601 130 / 078 76 254 105
Ebost: catharan@btinternet.com
Cyfarwydd/Storiwraig ac Awdur. Graddiodd Catherine mewn Drama o Brifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1988 a bu’n actio am gyfnod o 8 mlynedd, gan gynnwys pum mlynedd fel un o aelodau llywiol Cwmni Theatr Bara Caws. Dechreuodd adrodd straeon ym 1999, ar ol cael ei phenodi fel Cyfarwydd i Gynllun Adrodd Stori, Cyngor Gwynedd. Erbyn heddiw, mae Catherine wedi teithio led led Cymru a thramor yn adrodd straeon mewn ysgolion, colegau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, theatrau a chanolfannau cymdeithasol. Mae hi wedi perfformio mewn gwyliau rhyngwladol i blant yn Aberystwyth, Galway, Kilkenny, Dulyn a Calgary,Canada ac wedi’i nomineiddio i gystadlu am wobr Cymrodoriaeth yr ‘Arts Foundation, UK’ ym 2009. Mae hi’n arwain gweithdai drama ac ysgrifennu stori er mwyn hybu llafaredd a llythrennedd i blant ysgol ac yn cynnig hyfforddiant ar sut i adrodd stori i oedolion a myfyrwyr, yn ogystal a bod yn siaradwr gwadd ar nifer o gyrsiau HMS i
athrawon, (mae hi ar restr siaradwyr gwadd CBAC).
Mae hi hefyd yn awdur pum llyfr i blant.
Cyhoeddiadau:
Idris y Cawr (Gwasg Gwynedd 2004)
Ganthrig Bwt y Wrach (Gwasg Gwynedd 2006)
Tywysoges y Twr (Gwasg Gwynedd 2008)
Y Ci Ffyddlon (Gwasg Gomer 2005)
Sbid (ACCAC 2007)
Cryno Ddisg – Storiau Pum Munud – (Tympan 2003)
DVD – Cawr y Carneddau – (NFER 2008)
Pynciau sy’n gymwys o dan Cynllun Awduron ar Daith:
1. Adrodd Stori.
2. Gweithdy Perfformio Stori a/neu Cymeriadu.
3. Gweithdy Ysgrifennu Stori gan ganolbwyntio ar a) plot, b) cymeriadu neu c) deialog.
4. Ymweliad fel Awdur.
5. Cyd-weithio a storiwyr eraill.
Oedran y Gynulleidfa: Pob oed.



