Sefydliadau o Ddiddordeb i Awduron


Canolfan Dylan Thomas


Cyfeiriad: Canolfan Dylan Thomas, Somerset Place, Abertawe SA1 1RR
Ffon: 01792 463980
Ffacs:01792 463993
e–bost: dylanthomas.lit@swansea.gov.uk
Y We: www.dylanthomas.org neu www.dylanthomasfestival.com 
Disgrifiad:
Agorwyd Canolfan Dylan Thomas ym 1995 fel y prif safle ar gyfer Blwyddyn o Lenyddiaeth 1995 ym Mhrydain. Mae’r Ganolfan hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer cynadleddau a gellir ei llogi at ddibenion personol neu fasnachol. Er hynny, mae’n gartref i arddangosfa parhaol Dylan Thomas ’Man & Myth’ a siop lyfrau a Cafe sy â chyflenwad da o waith Dylan Thomas, llyfrau newydd eraill a dewis eang o weithiau ail-law. Mae gan y Ganolfan raglen gydol y flwyddyn o ddigwyddiadau llenyddol, gweithdai ayb. a Gwyl Wordplay i bobl ifanc a Gwyl Flynyddol Dylan Thomas.
Dyddiad sefydlu: 1995
Enwau cyswllt: David Wolley