Sefydliadau o Ddiddordeb i Awduron


Llyfrgell Genedlaethol Cymru


Cyfeiriad: Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU
Ffôn: 01970 632800
Ffacs:01970 615709
e–bost:  holi@llgc.org.uk
Y We: http://www.llgc.org.uk
Disgrifiad:
Mae ganddi hawl i gasglu un copi am ddim o bob eitem brintiedig a gyhoeddir ym Mhrydain ac Iwerddon. Yn ogystal, mae yma gasgliad enfawr o lyfrau a phamffledi, cylchgronau a phapurau newydd, microffurfiau, effemera, a llu o ddeunydd electronig am Gymru a’r gwledydd Celtaidd. Ceir hefyd filoedd o lawysgrifau ac archifau, lluniau a ffotograffau, mapiau, recordiau sain a delweddau symudol.
Dyddiad sefydlu: 1907