Sefydliadau o Ddiddordeb i Awduron


Llenyddiaeth Cymru Dramor


Cyfeiriad: Canolfan Mercator, Campws Llanbadarn, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2AU
Ffon: 01970 622 544
Ffacs: 01970 621 524
e–bost: post@llencymrudramor.org
Y We: www.llencymrudramor.org
Disgrifiad:
Sefydlwyd Llenyddiaeth Cymru Dramor (LLCD) i hybu cyfieithu a hyrwyddo llenyddiaethau Cymru a’i hawduron yn rhyngwladol.  Noddir yr asiantaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru (WAI).  Cydweithir a chyfieithwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru a thramor i hybu gwerthu hawliau cyfieithu, a gyda gwyliau a digwyddiadau llenyddol rhyngwladol i gynyddu ymwybyddiaeth o lenyddiaethau Cymru.  Gweinyddir grantiau cyfieithu ar gyfer cyhoeddwyr i helpu gyda’r gost o gyfieithu gweithiau llenyddol o’r Gymraeg a’r Saesneg i ieithoedd arall.  Ceir mwy o wybodaeth am ein gwaith ar ein gwefan, www.llencymrudramor.org, neu gallwch gysylltu â ni yn y cyfeiriad uchod.
Enwau cyswllt: Sioned Puw Rowlands