Cystadleuaeth Farddoniaeth y Stomp

Cystadleuaeth y Stomp

Stomp y Castell 2005

Beth yw’r Stomp?

Noson ddifyr a hwyliog yng nghwmni rhai o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru. Bydd 16 bardd yn cystadlu mewn 4 rownd, a’r gynulleidfa yn pleidleisio drwy fflachio cardiau lliw. Bydd un enillydd o bob rownd yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol er mwyn cystadlu am yr enwog Stôl. A’r Stompfeistr yn ceisio cadw trefn ar y cyfan.

Gall yr Academi gynnig nawdd ariannol a chyngor ymarferol os ydych chi a’ch cymdeithas yn awyddus i drefnu Stomp. Cynhelir Stompiadau (neu Stymp) mewn lleoliadau ar draws Cymru - o neuaddau pentref i ’stafelloedd cefn tafarndai, o glybiau rygbi i gestyll normanaidd - mae’r cardiau lliw’n fflachio a’r gynulleidfa’n chwerthin ar hyd a lled y wlad.

Y stomp fwyaf  yw Stomp y Steddfod, a gynhelir ar nos Wener olaf yr Eisteddfod bob blwyddyn. Fel rheol, gwerthir pob tocyn i’r noson ryfeddol hon o leiaf wythnos cyn y digwyddiad, ac mae’r galw’n cynyddu bob blwyddyn. Un o broblemau dyrys yr Academi, trefnwyr Stomp y Steddfod, yw sicrhau lleoliad digon o faint. Yn 2005 aethpwyd â’r Stomp i Gastell Caernarfon, gyda 500 yn y gynulleidfa. 

   Pod ac Ifor  Gwyneth Glyn yn ennill  Twm Morys yn ennill  Ifan Prys a Blodwen

Cyn-enillwyr Stomp y Steddfod

2007 Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau - Arwel "Pod" Roberts

2006 Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch - Arwel "Pod" Roberts

2005 Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau - Gwyneth Glyn

2004 Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd - Ifan Prys (a Blod)

2003 Eisteddfod Genedlaethol Meifod - Mrs Tudur Dylan Jones

2002 Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi - Twm Morys

2001 Eisteddfod Genedlaethol Dinbych - Grahame Davies

2000 Eisteddfod Genedlaethol Llanelli - Nia Môn ac Eirug Wyn (Nia gafodd y stôl gan fod Eirug wedi ennill y Fedal Ryddiaith)

1999 Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn - Bethan Gwanas