Sut i Wneud Cais

Y Broses

  1. Ffonio’r Academi i wneud yn siwr bod cyllid ar gael i gefnogi’r digwyddiad arfaethedig. Gall fod adegau pan fydd ystyriaethau cyllidebol o bosibl yn ein rhwystro rhag cefnogi digwyddiadau ar y dyddiadau y byddai trefnwyr yn eu hoffi. Bydd staff yr Academi yn hapus i roi cyngor ar bob agwedd ar gynnal digwyddiad, gan gynnwys awgrymu awduron addas. Gall yr Academi gynnig hyd at hanner cyfanswm costau digwyddiadau priodol.
  2. Ar ôl cael cytundeb mewn egwyddor ynghylch y digwyddiad dros y ffôn, gall trefnwyr gysylltu â’r awdur(on) dan sylw i gadarnhau dyddiadau/manylion etc.
  3. Yna rhaid i drefnwyr gadarnhau’r cais am arian trwy lythyr trwy’r post neu’r ffacs, neu drwy ddefnyddio’r ffurflen sydd ar gael o’r ddewislen ar y chwith, gan roi’r wybodaeth ganlynol i ni:
  • Enw, cyfeiriad a rhif ffôn cysylltu ar gyfer y grŵp/ysgol/sefydliad.
  • Enw(au)’r awdur(on), ffi (ffïoedd) arfaethedig, treuliau arfaethedig, disgrifiad o’r digwyddiad (gan gynnwys teitl os yw’n berthnasol), prisiau tocynnau (os yn berthnasol) ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall y credwch y dylem ei chael.
  • Rhestrir digwyddiadau (ac eithrio rhai a drefnir gan ysgolion) yng nghylchgrawn deufisol yr Academi A470, sy’n nodi beth sydd ymlaen yn y Gymru lenyddol, a chânt eu cynnwys hefyd ar wefan yr Academi. Mae’n bwysig rhoi gwybodaeth lawn inni i’n helpu i hysbysebu’r digwyddiad.
  • Dyddiad y digwyddiad a’r amser ynghyd ag enw a chyfeiriad post y lleoliad.
    Byddwn yn ymateb yn brydlon i’ch cais ac o bosibl yn cysylltu â chi am wybodaeth ategol. Os nad yw’n bosibl inni gynnig cymorth, byddwn yn rhoi gwybod beth yw’r rhesymau dros ein penderfyniad. Os gallwn gefnogi eich cais, byddwn yn darparu ffurflenni archebu ac anfonir y canlynol at drefnwyr:
  • Ffurflen felen i gadarnhau cefnogaeth yr Academi. Gofynnir i drefnwyr lofnodi hon a’i hanfon yn ôl ar unwaith.
  • Ffurflen hawlio i drefnwyr ei hanfon i mewn ar ôl y digwyddiad. Mae hyn yn cadarnhau bod trefnwyr wedi talu i’r llenor ac yn dweud wrthym faint o bobl oedd yn bresennol/a gymerodd ran. Ar gefn y ffurflen hon, gofynnir i drefnwyr roi adroddiad byr am y digwyddiad ac am berfformiad yr awdur.

Bydd awduron sy’n cymryd rhan yn cael llythyr oddi wrthym yn dweud wrthym am gyfraniad yr Academi ac am y cytundeb a wnaed rhyngom a’r hyrwyddwr. Gofynnir i’r awdur hefyd roi adroddiad am y digwyddiad. Efallai y bydd sylwedydd annibynnol ar ran yr Academi hefyd yn bresennol ac yn llenwi ffurflen adrodd debyg. 

Noder bod yn rhaid derbyn ceisiadau ysgrifenedig am gymorth gan yr Academi ymhell ymlaen llaw ac o leiaf bedair wythnos cyn dyddiad y digwyddiad arfaethedig.