Sut i Wneud Cais

Ffurflen Gais ar gyfer Nawdd gan yr Academi
Cyn cychwyn, mae'r Academi yn argymell fod trefnwyr newydd yn cysylltu â ni, naill ai drwy e-bost neu alwad ar  029 2047 2266.  Mae'r staff â chryn dipyn o brofiad yn y maes o drefnu a hysbysebu digwyddiadau llenyddol, ac rydym yn fwy na pharod i helpu a chynghori mewn unrhyw ffordd.

Fydd y wybodaeth isod yn ein galluogi ni i ystyried eich cais, ac yn ogystal  gellir  hysbysebu eich digwyddiad, lle bo hynny'n addas, ar ein gwefan ac yn ein cylchgrawn A470.  Rydym yn annog trefnwyr digwyddiadau  cyhoeddus mawreddog i sicrhau nad oes yna wrthdaro â digwyddiadau eraill tebyg.

Ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau, mae angen llanw ffurflen unigol i bob digwyddiad.  Mae angen o leiaf mis o rhybudd am ddigwyddiadau cyhoeddus a phythefnos o rybudd am ddigwyddiadau mewn ysgolion.

Os ydych yn paratoi deunydd cyhoeddusrwydd am y digwyddiad, rhaid cynnwys logos yr Academi Ni allwn gefnogi digwyddiad lle mae'r deunydd cyhoeddusrwydd (posteri, taflenni a.y.y.b.) wedi ei lunio heb gydnabyddiaeth i'r Academi.

Byddwn yn ymateb yn brydlon i'r cais naill ai drwy gynnig ffurfiol a seliwyd ar y wybodaeth isod, neu drwy gysylltu am fwy o wyboaeth ychwanegol os oes angen.  Os na allwn gynnig nawdd, fe gysylltwn â chi i esbonio'r penderfyniad.

Ar ôl i’ch cais gael ei drosglwyddo’n llwyddiannus, byddwch yn derbyn ebost yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich cais. Anfonir y cydnabyddiaeth yn ystod oriau gwaith y swyddfa. Bydd ceisiadau a wneir dros nos neu ar benwythnos fel arfer yn cael eu cydnabod pan fydd y swyddfa ar agor nesaf.

Os na fyddwch yn derbyn ebost yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich cais, a wnewch chi ffonio’r Academi am gyfarwyddyd os gwelwch yn dda.

Manylion Cyswllt
Manylion y Digwyddiad
Costau’r Digwyddiad