#include_no_cache_include("/includes_standard/always_run.cfm")#

Swyddogion


Peter FinchPrif Weithredwr yr Academi: Peter Finch
Awdur, bardd a mentrwr llenyddol. Bu’n rheoli Oriel, siop lyfrau Cyngor Celfyddydau Cymru, am nifer o flynyddoedd cyn ymuno â’r Academi. Awdur nifer o gyfrolau, gan gynnwys Food (Seren), How to Publish Yourself (A&B) a Real Cardiff (Seren).
Lleucu SiencynDirprwy: Lleucu Siencyn
Yn wreiddiol o Dalgarreg, Sir Aberteifi. Graddiodd o’r Coleg Newydd, Rhydychen gydag anrhydedd yn Saesneg. Wedi treulio cyfnodau’n crwydro cyfandir De America, bu’n gweithio fel ymchwilydd a sgriptiwr gyda chwmnïau teledu Cymraeg. Cyn ymuno â’r Academi yn 2002, roedd hi’n Swyddog Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Bob MoleSwyddog Prosiectau: Bob Mole
Graddiodd Bob Mole o Goleg Fitzwilliam, Caergrawnt a hyfforddi’n yn gyfrifydd gyda chwmni cyfrifyddion Peat Marwick Mitchell. Ymunodd â Chymdeithas Celfyddydau De–ddwyrain Cymru yng Nghwmbrân yn 1977.  Yn 1998 ymunodd â’r Academi ar ei newydd wedd fel Swyddog Prosiectau, yn gweinyddu’r cynlluniau nawdd llenyddol. Yn ogystal, mae Bob yn gweithio fel tiwtor preifat ac yn arddwr proffesiynol rhan-amser. Ysgrifennodd dair cyfrol ar hanes chwaraeon lleol, ac mae drws nesa’ i Moliere ym mynegai Llyfrgell Casnewydd.  Mae’n dysgu Cymraeg.
Hollie AldridgeSwyddog Llenyddiaeth: Hollie Aldridge
Gogleddwraig yw Hollie – o Wigan yn Swydd Gaerhirfryn. Cafodd ei denu gan y môr i fae Ceredigion ac aeth i astudio Llenyddiaeth Saesneg yn Aberystwyth, gan raddio yn 2005.  Yna symudodd i Gaerdydd i astudio cwrs ôl-radd mewn Rheoli’r Celfyddydau yn y Coleg Cerdd a Drama. Ymunodd â’r Academi yn Ebrill 2006.
Elinor RobsonRheolwr Busnes: Elinor Robson
Yn wreiddiol o Landysul, Ceredigion.  Graddiodd yn y Ffrangeg o Brifysgol Sussex, Brighton, a threuliodd flwyddyn yn astudio ym Mhrifysgol Toulouse le Mirail, Ffrainc.  Ennillodd MA mewn Llenyddiaeth Ewropeaidd o Brifysgol Caerdydd.  Wedi gweithio i’r Cynulliad ac fel Cynorthwy-ydd Llyfrgell ym Mhrifysgol Caerdydd, ymunodd â’r Academi yn 2004.
Elin WilliamsCynorthwy-ydd Personol i’r Prif Weithredwr: Elin Williams
Penderfynodd Elin mai ym myd y celfyddydau y perthynai ar o^l cwblhau gradd yn y Gyfraith gyda Chymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth yn 2004.  Bu hi’n gweithio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru cyn ymuno a^’r Academi flwyddyn diwethaf.
Gwen Lasarus JamesHyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd: Gwen Lasarus James
Daw Gwen Lasarus yn wreiddiol o Lanfairpwll. Ei dewis cyntaf o yrfa oedd actio, a bu’n gweithio’n gyson ar lwyfannau Cymru ac ar gyfresi teledu S4C. Bu ysgrifennu yn rhan o’i bywyd o oedran cynnar, a dros y blynyddoedd llwyddodd i ysgrifennu sawl darn ar gyfer y llwyfan, ambell sgript deledu a cherdd neu ddwy.  Bu’n teithio â sioe o’i cherddi Pan ga’i Funud gyda Llio Silyn yn ystod y tair blynedd diwethaf.  Yn haf 2001 cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i bobl ifainc, Sgribls Hogan Flêr (Y Lolfa), ac yn 2004 cyhoeddwyd dilyniant iddi, Snogs a Sgribls Hogan Flêr (Y Lolfa).
Petra BennettSwyddog Llenyddiaeth: Petra Bennett
Fe’i ganwyd ac fe’i magwyd yng Nghaerdydd. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Bryntaf ac Ysgol Gyfun Llanhari. Graddiodd mewn Almaeneg a Llyfrgellyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Mae’n mwynhau teithio, yn enwedig i Ferlin, wrth ei bodd yn siarad Almaeneg ac yn ddarllenwraig frwd. Mae wrth ei bodd yn mynd i’r opera.
Gwennan EvansSwyddog Llenyddiaeth: Gwennan Evans
Mary CassarSwyddog Cyfrifon: Mary Cassar 
Fe’i ganwyd a’i magwyd yng Nghaerdydd. Wedi dros degawd yn gweithio gydag amryw gwmnïau cyfrifion, dychwelodd i addysg llawn amser i ennill gradd mewn Astudiaethau Busnes. Parhaoedd gyda’i haddysg, gan gwblhau cwrs Cymdeithas Technegwyr Cyfrifion (Association of Accounting Technicians) yn 2005. Ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer Arholiadau Galwedigaethol Cymdeithas Cyfrifyddion Ardystiedig.
Bronwen PriceCynorthwy-ydd Gweinyddol (Rhan Amser): Bronwen Price
Cafodd Bronwen ei magu yng Ngwlad yr Haf, ond mae teulu ei thad yn hanu o Gaerdydd. Enillodd radd mewn Archaeoleg ac Anthropoleg o Goleg Fitzwilliam, Caergrawnt, yna aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio MA mewn Cynhanes Ewropeaidd. Ar ôl dysgu Lefel A am ychydig flynyddoedd, dychwelodd i Gaerdydd i astudio ar gyfer PhD mewn Oes Neolithig hwyr ac Efydd cynnar yng ngorllewin Prydain. Fe’i cyhoeddir am y tro cyntaf yn y gyfrol ’Prehistoric Journeys’ yn ystod haf 2007.
Llio HuwsSwyddog Maes Gogledd Cymru: Llio Huws
Yn wreiddiol o Fodedern, Ynys Môn, mae Llio bellach yn byw ym Mangor.  Wedi graddio mewn Cyfathrebu ym Mhrifysgol Bangor, bu’n gweithio am gyfnod gyda’r Urdd cyn dilyn i weinyddu cwmni theatr Llwyfan Gogledd Cymru.  Ymunodd â’r Academi ddiwedd 2007.
Louise RichardsSwyddog Datblygu Llenyddiaeth y Cymoedd: Louise Richards
Ganed yn Windsor, ond symudodd at ei theulu yng Nghymru yn 1995.  Wedi cwblhau gradd mewn Dylunio Graffeg a Darlunio yng Ngholeg Celf Exeter a gradd TAR mewn Addysg Ôl-Orfodol, dechreuodd ar yrfa foddhaus gyda llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd ac â Datbygiad Llenyddiaeth a’r Celfyddydau.  Ymunodd â’r Academi yn 2007.