Cynlluniau Digido LlGC
Pleidlais Awduron
Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Academi ym mis Medi, bu’r Aelodau’n unfryd eu cefnogaeth i egwyddor talu i awduron ac yn gresynu at y diffyg ymgynghori ag awduron gan y Llyfrgell. Cynigwyd dau gynnig fel a ganlyn:
Y Cynnig Cyntaf
"Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn croesawu mewn egwyddor brosiect LlGC i ddigido cyfnodolion Cymru. Mae gennym, fodd bynnag, bryderon difrifol ynghylch sawl mater. Cynigiwn y dylai’r Llyfrgell Genedlaethol gymryd cyfrifoldeb llawn am geisio caniatâd gan awduron/deiliaid hawliau i gael digido eu gwaith. Ymhellach, ni ddylid digido oni fo deiliad yr hawliau wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig diamwys i ddigido yn y cynllun hwn, h.y. dylai’r prosiect weithio ar sail dewis ymuno ag ef yn hytrach na dewis eithrio ohono."
Yr Ail Gynnig
"Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hwn yn gresynu at y ffaith i fater talu i awduron am ddefnyddio deunydd hawlfraint gael ei esgeuluso ym mhrosiect Cylchgronau Cymru LlGC, ac mae’n dymuno gweld cyflwyno system daliadau ar unwaith."
Pasiwyd y ddau gynnig yn unfrydol.


