Cynlluniau Digido LlGC

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Academi eleni penderfynodd yr Aelodau y dylai’r Academi ysgrifennu’r llythyrau canlynol:

  1. Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Annwyl Andrew Green
 
Mae aelodau’r Academi wedi gofyn imi ysgrifennu atoch ynghylch prosiect Cylchgronau Cymru’r Llyfrgell Genedlaethol.  Mewn cyfarfod yn Aberystwyth y penwythnos diwethaf mynegodd aelodau o’r Academi Gymreig bryder ynghylch y cynigion presennol.  Pasiwyd dau gynnig, fel a ganlyn:
 
Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hwn yn croesawu mewn egwyddor brosiect y Llyfrgell Genedlaethol i ddigido cyfnodolion Cymru.  Mae gennym, fodd bynnag, bryderon ynghylch sawl mater.  Cynigiwn y dylai’r Llyfrgell Genedlaethol gymryd pob cyfrifoldeb dros geisio caniatâd awduron/deiliaid hawliau er mwyn digido eu gwaith.  At hynny, ni ddylid digido gwaith oni fo deiliad yr hawliau wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig diamwys i ddigido yn y cynllun hwn, h.y. dylai’r prosiect weithio ar sail dewis ymuno yn hytrach na dewis eithrio.
 
Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gresynu i fater taliadau i awduron am ddefnyddio deunydd hawlfraint ym mhrosiect Cylchgronau Cymru gael ei esgeuluso ac mae’n dymuno gweld trefn daliadau’n cael ei chyflwyno ar unwaith.
 
Gofynnwyd imi hefyd ddwyn y cynigion hyn i sylw cyfnodolion Cymru.
 
Tybed a allwn i gael eich ymateb? Edrychaf ymlaen at glywed oddi wrthych.
 
Yn gywir
 
Peter Finch
Prif Weithredwr: Academi

Rydym eisoes wedi derbyn ymateb gan Andrew Green, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Darllenwch ei lythyr yma.

  1. Cylchgronau Cymru
Annwyl Olygydd
 
Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Academi Gymreig, a gynhaliwyd yn Aberystwyth y mis hwn, mynegwyd cryn bryder ynghylch cynigion y Llyfrgell Genedlaethol i ddigido cynnwys cyfnodolion Cymru ac i wneud hynny heb dalu i’r awduron dan sylw.  Anfonwyd y llythyr cyplysedig at Andrew Green y Llyfrgellydd Cenedlaethol.
 
Mae’r aelodau - ac mae’r Academi’n cynrychioli bron pob awdur o bwys sy’n dod o Gymru neu’n gweithio yng Nghymru - wedi gofyn i mi bwyso arnoch i beidio â llofnodi i gytuno i ddigido hyd nes y bydd y mater hwn wedi ei ddatrys.  Os ydych eisoes wedi llofnodi gofynnwn i chi ysgrifennu at y Llyfrgell Genedlaethol i fynegi eich pryder.
 
Mae gan yr Academi wefan sy’n rhoi manylion am y datblygiadau a’r dadleuon sy’n ymwneud â’r mater hwn.  Mae’r wefan i’w gweld yn <http://www.academi.org/copyright-debate/>.  Byddwn yn gwerthfawrogi eich ymateb.
 
Yn gywir
 
Peter Finch
Prif Weithredwr: Academi

Darllenwch ymatebion y Cylchgronau yma.