Cynlluniau Digido LlGC
Ymateb LLGC
Llythyr gan Andrew Green, 24ain Ionawr 2008:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac effaith prosiect Cylchgronau Cymru ar awduron a chyhoeddwyr
Ar 11 Ionawr 2008 cynhaliodd cynrychiolwyr o’r Academi, Cyngor Llyfrau Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru drafodaeth gyfeillgar a chadarnhaol ar y materion ehangach sy’n deillio o brosiect Cylchgronau Cymru. Cytunwyd y byddai’n fuddiol petai’r Llyfrgell Genedlaethol yn egluro sail resymegol y prosiect a’r goblygiadau ar gyfer y dyfodol.
1 Cyflwyniad
Yn 2006 cafodd Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF) arian gan Gyd-bwyllgor Systemau Gwybodaeth y cyrff cyllido addysg uwch yn y DU (JISC) a Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer prosiect a elwir bellach yn ‘Cylchgronau Cymru’. Gwnaed cyfraniadau mewn da hefyd gan aelodau WHELF a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n rheoli’r prosiect. Mae’r prosiect yn rhedeg o Ionawr 2007 hyd fis Mawrth 2009 a’i nod yw digido tua 600,000 o dudalennau o gyfnodolion yn ymwneud â Chymru a’u gosod ar y We.
Bydd y prosiect yn cynnwys hyd at 90 o deitlau Cymraeg a Saesneg, a fydd yn amrywio o gyhoeddiadau academaidd a chyhoeddiadau cymdeithasau hanesyddol i gylchgronau llenyddol, diwylliannol a phoblogaidd. Deunyddiau o’r ugeinfed ganrif fydd y rhan fwyaf, er y cynhwysir peth deunydd o’r 19eg ganrif yn achos y teitlau hŷn. Cynhwysir deunydd diweddar (hyd 2005) gan ddibynnu ar y ’cyfnod gwahardd’ y cytunir arno â’r cyhoeddwyr.
Bydd y wefan ar gael i ddefnyddwyr am ddim a heb iddynt gofrestru. Efallai y bydd cyfyngu ar ailddefnyddio’r deunydd yn ôl amodau y cytunir arnynt â’r cyhoeddwyr. Bydd deunydd y gwrthodir caniatâd ar ei gyfer yn ymddangos wedi’i guddio, gyda nodyn yn egluro ei absenoldeb.
Cydnabyddir bod y rhan fwyaf o’r deunydd yn dal i gael ei warchod gan hawlfraint ac mae’r prosiect wedi ei lunio â hynny mewn golwg. Yn ystod y ddadl a ysgogwyd gan y prosiect cododd rhai camsyniadau, a hoffem gyflwyno peth o’r cefndir er mwyn taflu goleuni ar y materion dan sylw.
2 Ymgynghori a chynllunio’r prosiect
Pan oedd y prosiect arfaethedig yn cael ei ddrafftio mewn ymateb i’r gwahoddiad gan JISC i gyflwyno ceisiadau, dynododd WHELF gasgliadau 19eg ganrif ac 20fed ganrif y Llyfrgell Genedlaethol o gyfnodolion fel y deunydd print yr oedd yn gwneud y defnydd mwyaf ohono. Cyflwynwyd dau gynnig, ac o’r ddau dewisodd JISC brosiect yr ugeinfed ganrif oherwydd y galw uwch tebygol gan fyfyrwyr (roedd hefyd yn cydnabod gwerth tebygol y prosiect i ddysgwyr y tu allan i addysg uwch). Y gwahaniaeth allweddol rhwng y prosiectau oedd y dybiaeth bod deunydd yr ugeinfed ganrif yn destun hawlfraint a oedd yn parhau (sy’n para am 70 mlynedd ar ôl marwolaeth y crëwr).
Ym mis Gorffennaf 2006, cyn cyflwyno’r cynnig terfynol ar ran WHELF, ymgynghorodd y Llyfrgell ag amrywiaeth eang o gyrff gan gynnwys yr Academi, Cyngor Llyfrau Cymru, CAWCS, CREW, CBAC, NIACE, a chynifer o gyhoeddwyr ag oedd modd (tua 56), i weld a fyddai’r prosiect yn fuddiol iddynt hwy. Bu’r ymateb bron yn unfrydol gadarnhaol, a dim ond un teitl a wrthododd gymryd rhan, mewn egwyddor. Ni nododd yr un o’r ymatebwyr y gallai rhai awduron wrthod caniatâd oni fyddai darpariaeth iddynt gael tâl, er bod y Llyfrgell yn ymwybodol bod hyn yn bosibilrwydd.
Yna roedd yn rhaid i’r Llyfrgell bwyso a mesur sut i ddyfeisio prosiect a oedd yn gost-effeithiol, yn ymarferol, ac yn gynrychioliadol. Daeth i’r casgliad y byddai’n well anelu at gynnwys cymaint o ddeunydd ag yr oedd modd, trwy gynnwys dim ond y deunydd nad oedd ffi yn daladwy ar ei gyfer, yn hytrach na chyfyngu cwmpas y prosiect i nifer lai o deitlau, gan dalu ffioedd lle y byddai angen. Penderfyniad ymwybodol oedd hwn (yn gam neu’n gymwys): nid yw’n wir nad oedd y Llyfrgell wedi ystyried y mater ymlaen llaw.
Cymeradwywyd y prosiect mewn egwyddor ym mis Tachwedd 2006, ac ym mis Ionawr 2007 penodwyd y tîm. Y cam cyntaf a gymerodd oedd cysylltu â chyhoeddwyr y teitlau gan ofyn iddynt ystyried cael eu cynnwys yn y prosiect, a gwahoddwyd yr holl gyhoeddwyr i seminar, a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2007, i roi gwybodaeth am y prosiect a’i oblygiadau. Roedd caniatâd y cyhoeddwyr yn hanfodol er mwyn i deitl gael ei gynnwys yn y prosiect, ac felly cysylltwyd â’r cyhoeddwyr yn gyntaf. Bu’r cyhoeddwyr, ar ôl cytuno mewn egwyddor i gael eu cynnwys, ers hynny’n cysylltu â’u deiliaid hawlfraint yn gofyn am ganiatâd i gyfraniadau unigol ymddangos ar y We. Gallai ymgynghori â’r cyfranwyr cyn gwybod a oedd y teitl yn dymuno cael ei gynnwys yn y prosiect fod wedi arwain at lawer iawn o ymdrech wastraff. Hyd yma, o’r 90 o deitlau y cysylltwyd â hwy, dim ond tri chyhoeddwr (sy’n gyfrifol am bum teitl) sydd wedi gwrthod caniatâd. Felly mae canlyniadau’r ymgynghoriad wedi eu cadarnhau.
3 Y broses ganiatâd
Efallai fod awduron (a deiliaid hawlfraint eraill) yn meddwl am eu daliadau hawlfraint fel endid monolithig, ond mae yna resymau ymarferol pam y dewisodd y Llyfrgell ymdrin â chynnwys pob teitl ar wahân: bydd telerau cytundebau cyhoeddi rhwng cyhoeddwr ac awdur yn amrywio rhwng teitlau, a’r cyhoeddwr fydd yn cadw’r cofnodion sy’n bodoli, os oes rhai.
Mae’r prosiect yn mynd rhagddo ar sail proses bedair-cam:
- Cytunir â’r cyhoeddwr y bydd teitl yn cael ei gynnwys mewn egwyddor.
- Mae’r cyhoeddwr yn cymryd camau rhesymol i gysylltu â chynifer ag y gall o’i ddeiliaid hawlfraint. Gall hyn gynnwys argraffu eitemau newyddion yn y cyhoeddiad, trafodaeth mewn cyfarfodydd cyffredinol blynyddol, a phostio ffurflenni at gyfranwyr. Mae tîm y prosiect wedi helpu â’r gwaith postio dros deitlau na allent wneud hynny eu hunain, trwy bostio, rhoi trefn ar ymatebion, ac ymchwilio i gyfeiriadau cyfredol. Mae un ffurflen ganiatâd safonol yn cwmpasu holl ddeunydd deiliad hawlfraint mewn cyhoeddiad, a gellir rhoi caniatâd ar gyfer y cyfan, peth, neu ddim o gwbl o’r deunydd hwnnw.
- Yna bydd y cyhoeddwr yn llofnodi cytundeb trwydded sy’n nodi’r deunyddiau sydd i’w cynnwys a’r rhai sydd i’w heithrio. Yn achos rhai teitlau bydd hyn yn golygu ’dewis ymuno’ (dim ond y deunydd y rhoddwyd caniatâd penodol ar ei gyfer fydd yn cael ei gynnwys - yn amlach na pheidio teitlau sy’n talu i’w cyfranwyr), ac yn achos teitlau eraill bydd yn golygu ’dewis eithrio’ (bydd pob deunydd na wrthodwyd yn benodol ganiatâd i’w gynnwys yn cael ei gynnwys). Y cyhoeddwr sy’n dewis y dull, ar sail ei wybodaeth am agwedd eu cyfranwyr a lefel yr ymateb. Yn achos y rhan fwyaf o deitlau rhoddir caniatâd ar gyfer 99% neu ragor o’r cynnwys.
- Gosodir y deunydd ar y wefan, gyda thelerau ac amodau ar gyfer defnyddwyr yn nodi a ganiateir ailddefnyddio masnachol.
- Os daw deiliaid hawlfraint atom nas ymgynghorwyd â hwy am ba reswm bynnag, a hwythau’n dymuno i’w cyfraniadau gael eu tynnu oddi ar y wefan, byddant yn cael eu tynnu oddi yno cyn gynted ag y bo modd. Mae’r Llyfrgell yn sylweddoli na fydd wedi bod yn bosibl cysylltu â phob un o’r deiliaid hawlfraint, yn arbennig os nad hwy yw’r crewyr gwreiddiol.
4 Effeithiau ar gyhoeddwyr
Mae’r rhan fwyaf o gyhoeddwyr wedi bod o’r farn y bydd y prosiect yn fuddiol iddynt ar yr amod y bydd y cyfnod gwahardd yn gwarchod y galw am eu copïau argraffedig caled. Maent yn awyddus i gael sylw i gynnwys eu harchif fel ffordd o ddod ag amlygrwydd i’w cyhoeddiad gerbron cynulleidfa newydd fyd-eang. Gall cynnwys dolen gyswllt o’r wefan i dudalen danysgrifio’r cyhoeddwr arwain at fwy o werthiant. Bydd cyhoeddwyr yn cael copïau digidol o gynnwys eu teitlau. Fel y nodwyd uchod, ychydig iawn o gyhoeddwyr sydd wedi gwrthod.
5 Effeithiau ar awduron
Deilliodd llawer o’r dadlau am y prosiect o’r dybiaeth bod y Llyfrgell yn anwybyddu hawlfraint ac y bydd yn mynd rhagddi heb ganiatâd. Nid yw’r naill dybiaeth na’r llall yn gywir. Ni ofynnir am drosglwyddo hawlfraint: ceisir trwydded. Os nad yw deiliaid hawlfraint yn dymuno i’w deunydd ymddangos ar y wefan, ni fydd yn ymddangos. Mater i bob deiliad yw penderfynu a yw am dderbyn y cynnig, ar y sail na thelir ffi; os penderfynant yn erbyn, perchir eu penderfyniad.
6 Y dyfodol
O ran mater ehangach hawliau digidol i awduron, mae llawer o ddatblygiadau cyfoes yn bwydo dadl fyd-eang y bydd iddi yn ôl pob tebyg ganlyniadau rhyngwladol. Swyddogaeth greiddiol y Llyfrgell yw casglu diwylliannau Cymru a rhoi mynediad atynt; mae’n ystyried y prosiect yn rhan bendant o’r swyddogaeth honno. Mae mater proffesiynoleiddio ysgrifennu yng Nghymru, a’r tâl sy’n briodol yn gyfnewid am hawliau digidol, y tu hwnt i gylch gwaith ei Siarter, er bod y Llyfrgell yn awyddus i roi cymaint o gefnogaeth ag y gall i awduron wrth hyrwyddo eu gwaith yn gyffredinol.
Andrew Green
Llyfrgellydd
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
24 Ionawr 2008
…….....................................................................................................
Llythyr gan Andrew Green, 22ain Hydref 2008:
‘Cylchgronau Cymru’ a’r Academi Gymreig
Diolch yn fawr am eich llythyr dyddiedig 10 Hydref.
Rwy’n falch bod yr Academi Gymreig yn croesawu prosiect ‘Cylchgronau Cymru’, sy’n cael ei ystyried gennym yn rhan o’n strategaeth i agor y drysau i ddaliadau’r Llyfrgell ac annog pobl i’w defnyddio. Rydym yn si?r y bydd yn gweithredu fel modd i arddangos ysgrifennu o Gymru, gan godi ei statws ar lwyfan byd-eang.
Mae ein trafodaethau blaenorol â’r Academi wedi canolbwyntio ar Taliesin. Fel cyhoeddwr a hyrwyddwr llenyddiaeth byddwch wrth gwrs yn ymwybodol o’r budd a gynigir gan y prosiect hwn: gwerth tua £20,000 o ddigido ac OCR (ar gostau’r prosiect, mwy nag ar raddfa fasnachol), cyfres lawn o ôl-ffeiliau electronig i chi, a lletya parhaol ar y wefan. Wrth gwrs, mater i’r Academi, yng ngoleuni ei nodau strategol ei hun, yw rhoi neu wrthod rhoi caniatâd i gynnwys Taliesin yn y prosiect.
Mae’r pwyntiau a godwyd yn eich Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn fwy cyffredinol eu natur, ac yn adlewyrchu effaith bosibl y prosiect ar fuddiannau aelodau’r Academi, y gellir ystyried eu bod yn siarad ar ran rhai o’r awduron a gynrychiolir yng nghynnwys y cylchgrawn. (Mae’n drueni na chyflwynwyd y pwyntiau mewn ymateb i’r arolwg cychwynnol o gyhoeddwyr a wnaed yn ystod haf 2006, neu yn y seminar a gynhaliwyd yn gynharach eleni.)
1 Caniatâd gan awduron / deiliaid hawlfraint
O’r cychwyn, penderfynasom ddod i gytundeb â chyhoeddwyr a fyddai â’r cysylltiadau, y wybodaeth, a’r profiad o weithio gyda’u deiliaid hawlfraint, mai nhw fyddai’n ceisio eu caniatâd. Ni fynegodd yr un o’r cyhoeddwyr yr ymgynghorwyd â nhw bryderon mawr am faint y gwaith y byddai hyn yn ei olygu iddynt, er iddi ddod yn amlwg ers hynny bod cyflwr cofnodion llawer o gyhoeddwyr, o ran pa mor gyflawn a chyfredol yw’r wybodaeth ynddynt, yn golygu bod angen ymchwilio i gofnodion papur. Gan fod cwmpas y prosiect yn ymestyn yn ôl i 1900, mae llawer o’r ymchwil hwn yn ei hanfod yn ymarfer hanesyddol; mae’r mwyafrif o’r awduron dan sylw wedi marw. Fodd bynnag, mae tîm y prosiect wedi cynnig cymorth ymarferol i’r cyhoeddwyr a gafodd fod hyn yn waith llafurus, trwy gynnig rhestr o unrhyw wybodaeth lyfryddol a fyddai ar gael a allai helpu i ganfod awduron. Mae wrthi’n paratoi, postio a choladu canlyniadau’r llythyrau a anfonwyd at yr awduron hynny y mae’n derbyn eu manylion gan y cyhoeddwr. Rydym felly’n barod i wneud llawer o’r gwaith sydd ynghlwm wrth y broses hon, ond rhaid i’r cyfrifoldeb yn y pen draw fod yn eiddo i’r cyhoeddwr.
Gan y bydd y cyhoeddwyr hefyd fel rheol yn berchen ar ran o hawlfraint y cynnwys dan sylw, rhaid iddynt fod yn rhan o unrhyw gytundeb. Mae’r Llyfrgell yn dilyn yr egwyddor na wneir unrhyw ddigido heb warant ffurfiol gan y cyhoeddwr (byddai’n dilyn yr egwyddor honno beth bynnag, ond mae hefyd yn un o ofynion y cyllid gan JISC). [1] Mae hyn, yn nhermau cynnig y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, yn golygu ’ymuno’ â’r prosiect ar lefel teitl y cyfnodolyn.
Bydd pa mor ymarferol yw hi i gyhoeddwr gysylltu â phob un o’i ddeiliaid hawlfraint yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Bydd rhai’n llwyddo i gysylltu â chyfran lawer uwch nag eraill. Rydym o’r farn bod y cyfuniad hwn - cyhoeddwyr yn cael caniatâd ymlaen llaw lle bo hynny’n ymarferol, a pholisi ‘tynnu i lawr’, sef tynnu deunydd yn ôl petai deiliaid hawlfraint yn ymddangos ac yn gofyn i hynny ddigwydd wedi i’r deunydd fynd yn fyw - yn gyfaddawd rhesymol a fydd yn cydbwyso buddiannau deiliaid hawlfraint a’r rhai a fyddai’n elwa ar gael gweld y deunyddiau. Yn ôl ein profiad ni, mae 99% o ddeiliaid hawlfraint yn hapus i roi caniatâd; mae’r gyfran o ddeiliaid hawlfraint na chysylltwyd â nhw ac a fyddai’n gwrthod felly’n fychan iawn; yn ein barn ni, byddai newid i ’ymuno’ fesul erthygl er budd y gr?p bychan hwn yn cael effaith negyddol ar y 99% hwn sy’n awyddus i gymaint o ddeunydd ag y bo modd gael ei gynnwys.
Sylweddolwn fod yr Academi yn pryderu’n arbennig am awduron cyfoes sy’n gofalu’n ddiwyd am eu hawlfreintiau. Mae’n ddigon posibl y byddai cyhoeddwyr yn y maes hwn yn dymuno dilyn polisi ’ymuno’ o ran rhoi caniatâd ar gyfer digido, ond ni fyddai hyn yn briodol i lawer o’r teitlau eraill.
2 Taliadau i ddeiliaid hawlfraint
Nid yw cyllideb y prosiect yn cynnwys elfen ar gyfer taliadau i ddeiliaid hawlfreintiau, ac mae’r Llyfrgell wedi cytuno â JISC y bydd yn darparu’r lefel darged o gynnwys ar sail yr adnoddau sydd ar gael.
Pan oedd cynnig y prosiect yn cael ei lunio, ymgynghorodd y Llyfrgell â’r cyhoeddwyr ynghylch sut y byddai deiliaid hawlfraint yn debygol o ymateb. Fe’n cynghorwyd mai cyfran fechan yn unig o ddeiliaid a grybwyllodd fod tâl yn fater o gonsýrn, ac yn aml roedd y rhain yn awgrymu y byddent yn gwrthod caniatâd beth bynnag gan nad oeddent yn dymuno i’w gwaith ymddangos ar y We. Roeddem felly’n edrych ar y prosiect fel un a fyddai’n darparu mynediad at y gyfran helaethaf o gynnwys, nad oedd angen talu amdano. Byddem yn gweld hyn fel canlyneb i’r egwyddor y dylai’r deunydd fod ar gael am ddim, ac nid fel gwasanaeth y tanysgrifir iddo.
Ni ddylai’r drwydded benodol a geisiwn leihau gwerth masnachol yr hawlfraint, gan y gellir cyfyngu ar ddefnydd a phennu mai at ddibenion anfasnachol yn unig y mae. Yr unig golled i’r deiliad felly yw na thelir am ddefnyddio’r gwaith yn y prosiect.
Mater i bob deiliad hawlfraint yw penderfynu a yw am i’w ddeunydd gael ei gynnwys; rydym yn deall yn iawn resymau rhai dros wrthod.
Diolch yn fawr am dynnu ein sylw at farn aelodau’r Academi yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Rwy’n gobeithio y bydd yr esboniad hwn yn ddefnyddiol ichi ac yn darparu gwybodaeth. Os hoffech gyhoeddi’r llythyr hwn ar wefan yr Academi byddwn yn hapus ichi wneud hynny, ar yr amod eich bod yn ei gynnwys yn llawn. Petaech yn dymuno hynny, byddem hefyd yn hapus i gyfrannu at y drafodaeth ddiddorol ar y mater hwn ar y wefan, pe na bai ond i leddfu ofnau a chywiro camsyniadau.
Petaech am drafod ymhellach byddai croeso mawr ichi ymweld â’r Llyfrgell hefyd.
Gyda phob dymuniad da
Yn gywir
Andrew M W Green
Llyfrgellydd
E-bost: ang@llgc.org.uk
[1] Mae nifer fechan o ‘weithiau amddifad’ sy’n ddosbarth o achosion arbennig y mae’r Llyfrgell yn eu hystyried ar hyn o bryd.


